Datblygu ein heconomi Sut gellir datblygu economi Dinas-Ranbarth Abertawe Mike Hedges AC Awst 2017

Datblygu ein heconomi

Sut gellir datblygu economi Dinas-Ranbarth Abertawe

Mike Hedges AC

Awst 2017

 

Mynegai

Cyflwyniad

Strategaeth cyflogaeth ac economaidd

Y Fargen Ddinesig

Aarhus ac Abertawe

Mannheim ac Abertawe

Ardaloedd gwledig

Casgliad

 

 

 

 

Cyflwyniad

Mae Dinas-Ranbarth Abertawe yn cynnwys un ddinas (Abertawe), tair tref fawr (Castell-nedd, Port Talbot a Llanelli), 5 cymuned yn y cymoedd (Afan, Dulais, Abertawe, Aman a Gwendraeth) a nifer o drefi bach a llawer o bentrefi.

Pe bai hwn wedi’i ysgrifennu hanner can mlynedd yn ôl byddai wedi mai’r diwydiannau allweddol oedd metel, yn enwedig dur, tunplat a chynhyrchion cysylltiedig, amaethyddiaeth, cloddio am lo a thwristiaeth.

Mae cyflogaeth wedi newid gyda dirywiad parhaus yn nifer y swyddi a chyfran y swyddi ym maes gweithgynhyrchu a thwf cyflogaeth yn y sectorau gwasanaeth. Mae cynnydd wedi bod mewn galwedigaethau sgiliau uwch ynghyd â thwf mewn rhai galwedigaethau sgiliau isel, a gostyngiad yn y galwedigaethau sgiliau canolig wrth i’r strwythur galwedigaethol bolaru. Mae cynnydd wedi bod hefyd yn nifer y menywod mewn cyflogaeth, tra ymysg dynion mae dirywiad wedi bod mewn cyflogaeth lawn amser, twf mewn cyflogaeth ran-amser a hunangyflogaeth.

Mae’r pamffled hwn yn edrych ar economi Bae Abertawe, cefn gwlad Cymru, y fargen ddinesig ac yna’n cymharu Abertawe gydag Aarhus, ail ddinas Denmarc a Mannheim, gefeilldref Abertawe.

 

 

Strategaeth Cyflogaeth ac Economaidd

Yn hanesyddol, roedd economi Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wedi’i seilio ar gloddio am lo, olew, y diwydiannau metel (yn enwedig dur), ynghyd ag amaethyddiaeth gan gynnwys cynhyrchion bwyd a thwristiaeth. Er i’r diwydiant glo ddiflannu bron yn llwyr, rydym yn ddibynnol ar y diwydiannau eraill o hyd ac mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu hamddiffyn a’u datblygu. Ydym ni’n cael y gwerth economaidd mwyaf posibl o greu cynhyrchion bwyd neu greu gan dwristiaeth?

Gwelwyd newid graddol yn y brif ffynhonnell cyflogaeth yn y cyfnod ar ôl y rhyfel gyda chynnydd yn nifer y ffatrïoedd buddsoddi mewnol a oedd yn agor, gan gynnwys y ffatri Ford yn Abertawe a nifer o ffatrïoedd cydrannau ceir ar draws y rhanbarth.

Mae economi Bae Abertawe wedi dibynnu ar y sector cyhoeddus hefyd, gyda gwasanaethau’r llywodraeth fel y DVLA yn cael eu hadleoli i Abertawe, ynghyd ȃ Llywodraeth Leol ac iechyd yn gyflogwyr pwysig yn yr ardal.

Os yw rhanbarth Bae Abertawe am gael economi lwyddiannus, fywiog a llewyrchus, mae angen i ni ganolbwyntio ar feysydd twf allweddol a chefnogi’r diwydiannau hynny gyda grantiau, cymhelliannau a chymorth arall. Er y bydd gan bawb wahanol syniadau ynglŷn ȃ pha sectorau i’w cefnogi, credaf fod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar gefnogi a meithrin y gwyddorau bywyd, TGCh, diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol.

Mae oddeutu 10,000 o bobl yng Nghymru mewn dros 300 o gwmnïau yn cael eu cyflogi yn y sector gwyddorau bywyd. Mae Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru o £100 miliwn, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn elfen allweddol yn yr ymdrech i hybu ein heconomi. Rydym eisoes wedi gweld y gronfa’n gwneud cyfraniad hollbwysig at dwf busnes drwy ddenu cwmnïau newydd i Gymru, ynghyd ȃ chynorthwyo i greu swyddi, gan annog graddedigion i ddechrau gweithio yn y sectorau fferyllol a gofal iechyd.

Dengys y dystiolaeth hefyd y gall busnesau yn y sector gwyddorau bywyd dyfu’n gyflym iawn mewn marchnad fyd-eang, gyda llwyddiant yn talu ar ei ganfed. Golyga hyn bod gan nifer fechan o fusnesau llwyddiannus yn y diwydiant gwyddorau bywyd y pŵer a’r potensial i greu gwerth economaidd rhagorol ar gyfer y ddinas-ranbarth a chreu swyddi sy’n talu’n dda.

Yn sector diwydiannau creadigol Cymru, rydym wedi gweld agor Stiwdios Bae Abertawe, ar safle’r hen ffatri Ford ar Fabian Way, lle cafodd y gyfres a gafodd lwyddiant rhyngwladol Da Vinci’s Demons, ei ffilmio a’i chynhyrchu.

Fodd bynnag, mae’r sectorau gwasanaethau proffesiynol ac ariannol yn parhau’n wan yng Nghymru, yn arbennig y tu allan i Gaerdydd. Mae angen i ni ddatblygu ein gwasanaethau proffesiynol a defnyddio’r sector prifysgolion sy’n ffynnu i gynhyrchu cyflogaeth yn y maes hwn. Yn yr 1970au a’r 1980au, roedd Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes dadansoddi elfennau meidraidd, ond ychydig iawn o fudd a greodd Cymru o hynny. Gall gwasanaethau proffesiynol ym meysydd cyllid a pheirianneg arwain at gyflogau uchel a hefyd a chynhyrchu clystyrau i weithgarwch cysylltiedig hefyd. Mae gennym ni gwmni yswiriant mawr ac uchel ei barch yn Admiral (un o gyflogwyr sector preifat mwyaf Cymru), ond mae dybryd angen i ni ddenu a chefnogi mwy o gyflogaeth gwerth uchel a chyflogau uchel yn y sector ariannol. Rydym hefyd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sector peirianneg uwch hefyd gyda’r cynllun Gweithgynhyrchu Deunyddiau a Dysgu, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sy’n ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu sgiliau technegol ledled Cymru.

Mae yna gyfle i ddatblygu diwydiant ynni’n seiliedig ar fôr-lynnoedd llanw, gan ddatblygu technoleg a bod yn arweinydd byd wrth harneisio ynni llanw gyda’r budd o greu gweithlu medrus iawn sy’n gallu gwneud gwaith peirianneg ar gyfer holl fôr-lynnoedd llanw’r byd.

Un diwydiant allweddol nad yw’n cael ei gyfyngu’n ddaearyddol ac sydd ȃ’r gallu i gynhyrchu cyfoeth enfawr yw TGCh. Mae tuedd i gwmnïau TGCh glystyru gyda’i gilydd, nid yn Silicon Valley yn California yn unig, ond hefyd o amgylch Prifysgol Caergrawnt, er enghraifft. Yng Nghymru, mae mentrau canolig eu maint yn y sector wedi perfformio’n gadarn gyda chynnydd o 92.8% mewn trosiant rhwng 2005 a 2013. Mae angen troi rhai o’r cwmnïau TGCh canolig yn gwmnïau TGCh mawr. Gwyddom fod TGCh yn sector sy’n talu’n dda a bod cyflwyno band eang cyflym iawn ledled rhanbarth Bae Abertawe yn ei gwneud yn bosibl i gwmnïau TGCh ddatblygu.

Gydag ansawdd y graddedigion TGCh sy’n cael eu cynhyrchu ym Mhrifysgolion Cymru, siom aruthrol bod gan Gymru gyfran is o’i phoblogaeth yn gweithio mewn cwmnïau TGCh na gweddill y DU. Os ydym am wneud Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn gartref amlwg i gwmnïau TGCh o’r fath, yna mae angen i ni ystyried darparu’r un gefnogaeth ȃ’r hyn sydd ar gael i’r sector gwyddorau bywyd.

Mae datblygu economi yn golygu datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar waith tymhorol a chyflogau isel. Felly, rydym angen strategaeth ar gyfer pob un o’r sectorau twf hyn sydd wedi’u targedu. Diolch i Lywodraeth Cymru, mae llawer o gynnydd eisoes wedi’i wneud yn y sectorau twf hyn, ond mae angen i lefel yr ymrwymiad a’r buddsoddiad barhau os ydym ni am wireddu ein huchelgais o greu economi cyflogau uchel a sgiliau uchel mewn gwirionedd.

 

 

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn darparu hyd at 9,465 o swyddi newydd ar gyfer y rhanbarth ac yn helpu i greu cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros o £1.8 biliwn. Er yn fuddiol dros ben i’r ardal, ni fydd yn datrys holl wendidau economaidd yr ardal ac ni fydd yn ateb problemau economaidd yr ardal. Mae’n rhaid canmol y pedwar awdurdod lleol a’u harweinwyr am eu hymrwymiad i’r prosiectau hyn. Ym mis Awst 2017, wrth i mi ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae rhai prosiectau eisoes ar waith.

Mae wedi’i seilio ar bedair elfen sef:

  • Rhyngrwyd sbarduno economaidd.
  • Rhyngrwyd ynni.
  • Rhyngrwyd gwyddorau bywyd a lles.
  • Rhyngrwyd gweithgynhyrchu doeth.

Sir Gaerfyrddin

Pentref Gwyddorau Bywyd a Lles

Fel rhan o’r fenter ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd) ehangach, mae pentref gwyddorau bywyd a lles wedi’i glustnodi ar gyfer Llanelli.

Y weledigaeth yw rhoi’r rhanbarth ar flaen y gad ym maes arloesedd gwyddorau bywyd a chael ei gydnabod fel “cyrchfan o ddewis” ar gyfer buddsoddi a menter byd-eang ym meysydd gwyddorau bywyd a lles.

Bydd y ffocws ar integreiddio datblygu busnes, addysg a mentrau llesiant, ymchwil a datblygu a mentrau gofal iechyd. Bydd yn cynnwys:

  • Sefydliad Gwyddorau Bywyd a fydd yn gweithredu fel deorydd busnes a dechrau busnes yn y sector gwyddorau bywyd.
  • Hyb llesiant a fydd yn gartref i ddarpariaeth hamdden a chwaraeon.
  • Pentref byw ȃ chymorth a fydd yn darparu gofal ar gyfer cleifion y tu allan i’r ysbyty.
  • Canolfan gwyddorau bywyd a lles.

Bydd rhwydwaith y campws yn adeiladu ar waith y Sefydliad Gwyddorau Bywyd, gyda chanolfannau arloesi a safleoedd lloeren ledled y rhanbarth.

Bydd seilwaith digidol rhanbarthol yn cael ei roi ar waith i gefnogi pob un o’r themâu a phrosiectau strategol y Fargen Ddinesig.

Y weledigaeth yw creu seilwaith digidol, gan gynnwys rhwydweithiau diwifr ffeibr gigabit a chenhedlaeth nesaf a fydd yn galluogi arloesedd ac entrepreneuriaeth yn y rhanbarth.

Bydd hefyd yn cynnwys ehangu darpariaeth galluoedd 4G a Wi-fi er budd ardaloedd trefol a gwledig.

Mae cynlluniau i’r rhanbarth fod yn ardal brawf ar gyfer 5G.

Clwstwr digidol yr Egin

Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu hyb creadigol a digidol a datblygu clwstwr sector diwydiannau creadigol. Bydd yn creu oddeutu 200 o swyddi ac yn helpu’r economi leol a chefnogi’r Gymraeg.

Abertawe

Prosiect y Campws Gwyddorau Bywyd a Lles

Bydd y prosiect hwn yn ehangu’r seilwaith ymchwil ac arloesedd ar gampws Treforys law yn llaw ȃ darpariaeth glinigol gyda’r gorau yn y byd. Yn ogystal ȃ hyn, bydd ailffurfio eiddo tirol yn arwain at ehangu Campws Singleton lle mae clwstwr cynyddol o fusnesau technoleg meddygol ac iechyd yn gweithredu a chydweithredu ar hyn o bryd.

Rhanbarth digidol Dinas a Glannau Abertawe

Prosiect £169 miliwn yw hwn sydd â’r nod o greu mwy na 1,300 o swyddi. Bydd yn creu 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa newydd ar Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas ar gyfer busnesau technoleg a bydd yn cefnogi doniau entrepreneuraidd a mentrau lleol.

Bydd y prosiect yn creu datblygiad pentref bocsys yn Ardal Arloesi Glannau Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1 hefyd. Caiff ei adeiladu o gynwysyddion llongau, a bydd yn darparu mannau fforddiadwy ar gyfer cwmnïau sy’n dechrau gyda chysylltiadau ȃ rhaglen academaidd y brifysgol.

Bydd y prosiect hwn yn gyfle hefyd i ddigideiddio’r arena dan do arfaethedig, gyda 5,000 i 6,000 o seddi, ar safle datblygu Dewi Sant Abertawe, a datblygu sgwâr digidol gyda sgriniau digidol a gwaith celf digidol.

Prosiect Ffatri’r Dyfodol

Y nod yw cynnal a pharhau i ddatblygu sylfaen gweithgynhyrchu cryf y rhanbarth, trwy greu rhwydwaith o ganolfannau arloesedd gweithgynhyrchu clyfar i ddarparu cyfle i fusnesau bach a chanolig fuddsoddi mewn technolegau gweithgynhyrchu a digidol arloesol. Nod y prosiect yw rhoi’r rhanbarth a’i mentrau ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a seiliedig ar ddata.

Sir Benfro

Ardal Forol Doc Penfro

Yn Sir Benfro, mae Ardal Forol Doc Penfro yn brosiect £76 miliwn i sefydlu canolfan ynni morol o gwmpas Porthladd Aberdaugleddau. Bydd yn ganolfan ar gyfer datblygu, saernïo, profi a defnyddio ynni morol.

Castell-nedd Port Talbot

Y Ganolfan Gwyddorau Dur

Bydd y ganolfan, sydd wedi’i lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu masnachol i fynd i’r afael ȃ heriau’r presennol a’r dyfodol o ran cynnal y gallu i gynhyrchu dur yn y rhanbarth ac yn y DU. Bydd yn gweithio gyda’r diwydiant i leihau ei effaith carbon a rhoi’r rhanbarth ar flaen y gad o ran cynhyrchu carbon isel. Bydd yn darparu cymorth hefyd ar gyfer datblygiadau yn y gadwyn gyflenwi dur a gweithrediadau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.

Canolfan Gwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf (CENGS) a’r Ganolfan Dechnoleg

Bydd prosiect CENGS yn darparu gallu dadansoddeg data i droi data o safon fyd-eang yn systemau a datrysiadau masnachol. Bydd y ganolfan yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac arloesedd a’r gallu i lansio, datblygu a meithrin cyfleoedd masnachol.

Prosiectau ar gyfer y rhanbarth cyfan

Y prosiect Seilwaith Digidol

Nod y prosiect hwn a arweinir gan Sir Benfro yw gwella parhad band eang a ffonau symudol gan ategu pob prosiect sy’n rhan o’r fargen.

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

Bydd y prosiect yn targedu prosiectau adeiladu tai newydd ac ôl-osod tai presennol. Dan arweiniad cyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd y prosiect hwn yn darparu cartrefi carbon isel arloesol, gan gefnogi targedau lleihau carbon. Nod y prosiect yw diogelu cyflenwad tai’r rhanbarth a chefnogi gostyngiad mewn galw am systemau grid trydan a nwy. Nod pwysig fydd lleihau tlodi tanwydd a’i effaith ar iechyd, ynghyd ȃ ffocws ar gysylltedd digidol a mesuryddion doeth.

Menter Sgiliau a Doniau

Dan arweiniad Sir Gaerfyrddin, bydd menter sgiliau a doniau yn cefnogi’r dasg o ddatblygu sgiliau ar gyfer pob un o’r 11 prosiect bargen ddinesig sydd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Rhanbarth Bae Abertawe. Nod y fenter hon yw ceisio sicrhau bod gweithlu sydd ȃ’r gallu i gyflawni pob un o brosiectau’r Fargen Ddinesig yn cael ei greu, ei ddenu a’i gadw.

 

 


Aarhus ac Abertawe

Aarhus yw ail ddinas Denmarc o ran poblogaeth ac Abertawe yw’r ail yng Nghymru. Tra bod Abertawe yn rhan o’r Gorllewin a’r Cymoedd a thra bod gan ddinas Abertawe gynnyrch domestig gros y pen o 75% o gyfartaledd Ewrop yn ôl Eurostat, mae gan Aarhus 107% o gyfartaledd Ewrop, felly gall Abertawe ddysgu gan Aarhus a’i heconomi.

Mae ardal Aarhus Fwyaf yn cyfrannu’n sylweddol at y farchnad ynni gwynt byd-eang. Mae’n gartref i rai o weithgynhyrchwyr tyrbinau gwynt mwyaf y byd a’r ardal yw canolfan wybodaeth fwyaf datblygedig y byd ym maes tyrbinau gwynt. Mae yno gyflenwyr ac isgontractwyr sy’n cwmpasu’r holl gadwyn gyflenwi ac mae’r sector yn elwa ar gefnogaeth wleidyddol gadarn i ynni gwynt ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae gan y clwstwr busnes gwynt yma hanes o gydweithio rhwng gweithgynhyrchwyr, cyflenwyr, cymunedau gwyddonol ac awdurdodau cyhoeddus.

Yr hyn sy’n cyfateb yn Abertawe yw’r Môr-lyn Llanw, a gallai Abertawe gyda’i môr-lyn llanw cyntaf ddatblygu i fod yn wneuthurwr tyrbinau gwynt mwyaf y byd ond mae angen i weithgynhyrchwyr, cyflenwyr, cymunedau gwyddonol ac awdurdodau cyhoeddus gydweithio, yn union fel y mae Aarhus wedi’i wneud gyda thyrbinau gwynt.

Sefydlwyd Prifysgol Aarhus ym 1928 a hi yw prifysgol fwyaf Denmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr ym mis Ionawr 2013. Mae’n cael ei hystyried yn un o brifysgolion gorau’r byd ac mae ymhlith y 100 uchaf.

Prifysgol sy’n cael ei harwain gan weithgareddau ymchwil yw Prifysgol Abertawe sydd wedi bod mewn bodolaeth ers 1920 gyda chyfanswm o 17,445 o fyfyrwyr yn 2015/16. Mae Prifysgol Abertawe rhwng safle 300 a 350 yn safleoedd prifysgolion y Byd. Felly’r her yw datblygu’r brifysgol o ran niferoedd myfyrwyr ac o ran ei safle yn rhestr goreuon y byd. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran y naill a’r llall yn y blynyddoedd diwethaf gyda champws y Bae yn cael ei adeiladu, ond mae cyfle o hyd i gynyddu ei niferoedd a gwella’i safle ar restr goreuon y byd.

INCUBA Scoence Park yw’r parc ymchwil mwyaf yn Aarhus, ac mae’n canolbwyntio ar ymchwil biofeddygol a TG. Mae’r sefydliad yn eiddo i Brifysgol Aarhus yn rhannol ac i fuddsoddwyr preifat yn rhannol a’i nod yw meithrin cysylltiadau agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd sy’n dechrau. Ymchwil biofeddygol a TG yw dau o’r diwydiannau twf presennol ledled y byd.

Mae’r rhain yn feysydd y mae Dinas-Ranbarth Abertawe yn gobeithio eu datblygu fel rhan o’r Ddinas-Ranbarth, gyda’r rhaglen Gwyddorau Bywyd a Lles i ddechrau. Y nod yw rhoi’r rhanbarth ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes gwyddorau bywyd a chael ei gydnabod fel cyrchfan o ddewis ar gyfer buddsoddiad a menter byd-eang ym maes gwyddorau bywyd a lles.

Yn ail, mae cynlluniau TGCh yn cynnwys rhanbarth digidol dinas a glannau Abertawe, canolfan gwasanaethau digidol y genhedlaeth nesaf a chanolfan dechnoleg, clwstwr digidol creadigol seilwaith digidol a ffatri ar gyfer y dyfodol. Bwriad yr uchod yw denu bron i £100 miliwn o fuddsoddiad preifat i’r Ddinas-Ranbarth. Credaf mai’r Fargen Ddinesig yw’r cynnig arloesol cywir ar gyfer ein rhanbarth a bydd yn helpu i arallgyfeirio economi ein rhanbarth drwy gefnogi twf mewn diwydiannau arloesol, gan gynnwys TGCh.

Mae angen i barc ymchwil gael ei arwain gan y Brifysgol fel y gwelir yn Aarhus a Chaergrawnt, lle crëwyd y Silicon Fen yn yr 1970au pan sefydlwyd Parc Gwyddoniaeth gan Trinity a cholegau eraill Caergrawnt.

Mae cyfle i greu parc ymchwil yn Ninas-Ranbarth bae Abertawe, ond bydd angen cefnogaeth lawn y Brifysgol ynghyd â llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

Mae pencadlys Arla Foods yn Aarhus, sef cynhyrchydd cynhyrchion llaeth mwyaf Sgandinafia a’r pedwerydd cwmni cynnyrch llaeth mwyaf yn y byd o ran cyfaint y llaeth, a seithfed o ran y trosiant. Mae gan Arla Foods dri phrif frand: Arla, Lurpak a chaws Castello sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.

Mae parc bwyd llwyddiannus yn Cross Hands yn Ninas-Ranbarth Abertawe sy’n ychwanegu gwerth at ‘Ardd Cymru’ ac i’r rhai sy’n prynu ei gynnyrch. Mae mewn lleoliad da gyda chyflenwyr o ansawdd uchel wedi’u lleol i gerllaw ac felly’n lleihau’r milltiroedd bwyd ar gyfer cynhyrchu. Maes ar gyfer twf yw prosesu mwy o fwyd yn lleol a chael mwy o’r budd economaidd o brosesu’r bwyd ynghyd â’r budd o’i gynhyrchu.

Er nad oes dwy ddinas yr un fath, yn enwedig pan maent mewn gwahanol wledydd, ac mae llwyddiant Aarhus yn dibynnu ar fwy na’r uchod, mae’n rhoi syniad o’r hyn sydd angen ei wneud i fod yn ddinas lwyddiannus yn economaidd. Er bod y Cyngor yn symud Abertawe i’r cyfeiriad iawn gyda’r fargen Ddinesig, ni all y Cyngor greu llwyddiant economaidd ar gyfer yr ardal ar ei ben ei hun. Mae angen i’r Prifysgolion, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan a’r sector preifat gydweithio i sicrhau bod yr economi yn tyfu.

 

 

Rhanbarth Mannheim a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Er bod Mannheim yn efeilldref i Abertawe, dyna lle mae’r tebygrwydd yn dod i ben. Mae’r data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol, ac fel rhywun sy’n byw yn Abertawe, mae’n ddigalon. Mae gan ranbarth metropolitan Mannheim werth ychwanegol gros o 147% o gyfartaledd Ewrop, sy’n codi i 210% yn ninas Mannheim, o gymharu â rhanbarth Metropolitan Abertawe sy’n 75% ac ardal awdurdod lleol Abertawe, sy’n 79%.

Ond beth mae Mannheim yn ei wneud yn wahanol ac a all Abertawe ddysgu gan ei gefeilldref.

Cyfeirir at ddinas Mannheim fel y “Ddinas Glyfar” gyntaf lle maent wedi llwyddo i gysylltu pob aelwyd yn y ddinas â rhwydwaith ynni clyfar. Mae arosfannau bysiau’n dangos pryd fydd y bws nesaf yn cyrraedd ac mae arwyddion yn dangos ymhle mae tagfeydd traffig. Hefyd, yn y ddinas a’r rhanbarth, rydych chi’n gallu cyrraedd popeth yn hawdd ar fws, tram neu drên.

Mae Prifysgol Mannheim, sef un o athrofeydd ymchwil mwyaf blaenllaw’r Almaen, yn gwneud cyfraniad allweddol at ei heconomi. Mae athrofeydd ymchwil y Brifysgol yn cydweithio’n agos â nifer o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol. Mae enghreifftiau’n cynnwys Canolfan Ymchwil Cymdeithasol Ewropeaidd Mannheim a’r Ganolfan Ymchwil Economaidd Ewropeaidd. Ysgol Fusnes Mannheim yw ysgol fusnes fwyaf blaenllaw’r Almaen ac mae’n cynnig addysg reoli o’r radd flaenaf.

Mae Canolfan Entrepreneuriaeth ac Arloesi Mannheim (MCEI) yn sefydliad sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol sy’n darparu llwyfan sefydlu a deori ar gyfer myfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae’r sefydliad yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Mittelstand ac Ymchwil BBaChau (IfM) Mannheim a Chadeirydd Ymchwil BBaChau ac Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Mannheim. Mae nifer o fusnesau newydd wedi dechrau’n llwyddiannus ym Mhrifysgol Mannheim neu wedi’u dechrau gan gyn-fyfyrwyr, er enghraifft, yn ôl ffynonellau cyfryngau lleol, Payback (€500 miliwn ymadael i American Express), Delivery Hero (codi $1.4 biliwn o gyllid), AUTO1 Group (codi $200 miliwn o gyllid), StudiVZ (€85 miliwn ymadael i George von Holtzbrinck Publishing Group), Simfy (codi €30 miliwn o gyllid), Goodgame Studios (dechrau IPO), SavingGlobal (codi $32 miliwn o gyllid), Synchronite (gwerthu i LivePerson) a movilizer (gwerthwyd i Honeywell). Mae’r Rhanbarth Metropolitan yn dod yn fwyfwy atyniadol i ddarparwyr gwasanaethau amlgyfrwng ac uwch-dechnoleg drwy SAP ac mae corfforaethau mawr fel ABB, BASF a Roche Diagnostics wedi sefydlu yno.

Mae’r uchod yn helpu i egluro pam fod Mannheim yn unfed ar ddeg yn y pymtheg uchaf o’r dinasoedd mwyaf dyfeisgar ledled y byd.

Hefyd, nid yw Mannheim wedi colli ei sylfaen gweithgynhyrchu hanesyddol gyda’r olynydd i gwmnïau gweithgynhyrchu cerbydau modur Karl Benz, mae gan Daimler AG, sydd â’i bencadlys yn Stuttgart, bresenoldeb sylweddol yn Mannheim ac yno mae’n cydosod ei beiriannau diesel a bysiau.

Mae’r ddinas yn gartref i gorfforaethau mawr rhyngwladol hefyd ABB, IBM, Roche, Unilever, Phoenix Group a sawl cwmni adnabyddus arall. Mae llawer o gwmnïau o newydd o faint canolig hefyd, er enghraifft, Fuchs Petrolub a Pepperl & Fuchs sy’n gweithredu’n rhyngwladol.

Mae’r diwydiannau creadigol wedi hen ennill eu plwyf, gyda’r Mannheimer Schule a’r Theatr Genedlaethol enwog. Mae’r Popakademie, prifysgol cerddoriaeth bop a busnes cerddoriaeth gyntaf yr Almaen, yn adnabyddus drwy’r byd. Mae gwyliau cerddoriaeth fel Maifeld Derby a Time Warp yn ategu safle Mannheim fel dinas gerddoriaeth. Mae stiwdio’r dylunydd ffasiwn Dorothee Schumacher yno hefyd ac mae ei gwaith yn cael ei gyflwyno mewn wythnosau ffasiwn rhyngwladol.

Gyda’r nod o gyfrannu at amgylchedd lle gall llawer mwy o fusnesau creadigol ffurfio, mae’r MG: Mannheimer Gründungszentren yn cefnogi sylfaenwyr busnes. Mae’r ganolfan yn cynghori yn ystod y broses sefydlu, yn darparu gofod swyddfa ac yn helpu cwmnïau newydd i oresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu.

Credaf fod rôl y Brifysgol wrth gefnogi datblygiad cwmnïau newydd yn hollbwysig i ffyniant yr ardal. Hefyd, mae’r syniad o gael sectorau diwydiannol allweddol a’u cefnogi, gan feithrin arbenigedd lleol a meysydd lle mae arbenigedd wedi’i ddatblygu dros sawl blwyddyn. Mae Mannheim wedi sicrhau hefyd bod ei sector gweithgynhyrchu yn cael ei seilio’n benodol o gwmpas Mercedez Benz.

Er na all Abertawe wneud popeth fel Mannheim, byddai adeiladu ar y Prifysgolion, yn enwedig campws y Bae, annog cwmnïau newydd drwy ganolfan entrepreneuriaeth ac arloesedd yn gam pwysig ymlaen. Mae Mannheim wedi gwneud cynnydd ym meysydd ynni a chysylltedd, dau faes y gall Dinas-Ranbarth Bae Abertawe elwa arnynt.

Yn olaf, byddai adeiladu ar y diwydiannau creadigol sydd eisoes yn y rhanbarth a chydnabod pwysigrwydd parhaus y diwydiannau metel yn helpu i sbarduno Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn ei blaen.

 

 

 

 

 

 

 


 

Dinas-Ranbarth gwledig Bae Abertawe

Mae fy nghydweithiwr Eluned Morgan wedi ysgrifennu pamffled – Cymru Wledig – Amser i Ymateb i’r Her 2025 – sydd ar gael o’i swyddfa. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd y pamffled diddorol hwn, ond yn hytrach canolbwyntio ar ardaloedd gwledig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Y tu allan i’r Ddinas a thair prif dref y rhanbarth, mae cymunedau’r cymoedd, trefi diwydiannol bach, trefi a phentrefi glan môr, ardaloedd gwledig ac amaethyddol a phentrefi a threfi cymudo.

Beth ellir ei wneud i wella’r economi?

Yn gyntaf, mae ffyniant y trefi a’r pentrefi noswylio a chymudo yn gysylltiedig â’r Ddinas a’r trefi y mae pobl yn cymudo iddynt.

Twristiaeth

  • ·         Creu cysylltiadau ag Iwerddon a chynnig gwyliau Iwerddon a Chymru
  • ·         Datblygu gwyliau bwyd a llety o werth uchel
  • ·         Datblygu marchnadoedd newydd fel twristiaeth ffydd a gwella cyfleoedd beicio a cherdded
  • ·         Yr amgylchedd a’r dirwedd yw’r rheswm bod y rhan fwyaf o bobl yn ymweld, felly mae angen eu gwarchod

Cefn gwlad ac amaethyddiaeth

  • ·         Hyrwyddo cynhyrchion Cymru fel cynhyrchion o ansawdd uchel
  • ·         Cynyddu prosesu bwyd yn yr ardal
  • ·         Datblygu brand Dinas-Ranbarth Bae Abertawe
  • ·         Hyrwyddo coedwigaeth a phrosesu coed

Trefi diwydiannol bach

  • ·         Adeiladu ar gryfderau lleol
  • ·         Arallgyfeirio’r sylfaen ddiwydiannol
  • ·         Adeiladu ar yr amgylchedd glân i ddenu diwydiant
  • ·         Adeiladu clystyrau

 

    

 

 

 

Casgliadau.

Mae angen i Abertawe a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe wella eu gwerth ychwanegol gros i gyrraedd cyfartaledd Prydain o leiaf. Mae angen i ni gefnogi masnach a diwydiannau lleol, a bydd twristiaeth ac amaethyddiaeth yn parhau yn bwysig yng nghefn gwlad Cymru.

Mae angen gweithredu mewn pum maes allweddol

1)      Mae’n rhaid i’r Fargen Ddinesig fynd rhagddi a chynhyrchu’r buddion cyflogaeth ac economaidd a fwriadwyd

2)      Rydym angen canolfan entrepreneuriaeth fel Mannheim neu barc datblygu fel Aarhus yn gysylltiedig â’r Prifysgolion yn Abertawe

3)      Mae cyfle i’r Brifysgol dyfu ymhellach ac fel uchod iddynt ganolbwyntio ar arloesedd a masnacheiddio

4)      Mae angen i ni gefnogi sectorau twf allweddol

5)      Mae angen i ni gefnogi’r prif gyflogwyr presennol

6)      Mae angen i ni gefnogi amaethyddiaeth, coedwigaeth a’r amgylchedd morol, ond edrych hefyd ar ychwanegu gwerth at y deunyddiau crai drwy brosesu ac adeiladu brand Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.



Avatar photo
Author: Mike Hedges MS
We're the UK's #1 Website Design & Digital Marketing agency for Labour Party politicians and groups, trusted for 14+ years in delivering website, social media marketing and election strategies.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Swansea East.
Subscribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
SUBSCRIBE FOR EMAIL UPDATES
Keep Updated
Subscribe to my email newsletter to get the latest news on Welsh Government investment and my campaigns in Swansea East.
Subsribe
I agree to the Privacy Policy and to receive email updates.
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Contact Details
Privacy Policy
Accept
We use cookies to improve your overall site experience. This includes personalising content, analysing site usage, and to assist in our marketing efforts. By continuing to use our site, you accept our use of cookies and Privacy Policy.
Accept